Bydd mudiad gwleidyddol a chelfyddydol newydd
, ‘AWokEN’, yn cael ei lansio yn ystod gŵyl Indyfest yn y brifddinas ddydd Sadwrn.

Mae enw’r mudiad yn chwarae ar y gair ‘awen’ a’r gair Saesneg, ‘awoken’, yn ôl un o’r sefydlwyr, y dramodydd Wyn Mason.

“Mae ‘Yes Cymru’ yn bodoli yn barod, fel mudiad gwleidyddol, sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth dros Gymru,” meddai.

“Maen nhw wedi cynhyrchu llyfryn bach, rhoi byrddau ar ochr strydoedd a sgwrsio gyda phobol wrth fynd heibio, wedi lobïo aelodau Cynulliad, mynd ar orymdeithiau… y pethau traddodiadol gwleidyddol. Y syniad yw ein bod ni’n gwneud rhywbeth diwylliannol.

“Os yw Cymru am ddatblygu yn wlad mwy hunan-gynhaliol, mae’n rhaid i ni ddychmygu’r wlad yna i mewn i fodolaeth, a phwy well na phobol greadigol, artistiaid i helpu i ddychmygu Cymru. Mae fel yr ochr ddiwylliannol, celfyddydol o Yes Cymru.”

Y sefydlwyr eraill yw’r awduron Catrin Dafydd a’r ymgyrchydd Sioned Haf a byddan nhw yn casglu enwau pobol ar Stryd Womanby ddydd Sadwrn i fod yn rhan o rwydwaith y mudiad.

“Mae e’n siawns i bobol wybod pa bobol eraill sydd mas yna yn meddwl yr un ffordd,” meddai Wyn Mason. “D’yn ni ddim yn gwybod i ble fydd y mudiad yn mynd ar y pwynt yma, felly ry’n ni’n ei sefydlu fel rhwydwaith, ac yn annog pobol i wneud pethau efo’i gilydd.”

Ysbrydoliaeth o’r Alban

Mae’r syniad wedi ei ysbrydoli gan weithgarwch y National Collective yn yr Alban, a lwyddodd i gael miloedd o gefnogwyr i achos annibyniaeth yn yr Alban trwy gyfrwng gigs, ffilmiau, darlleniadau barddoniaeth ac arddangosfeydd.

Trefnodd Wyn Mason symposiwm o’r enw ‘Dychmygu Cymru’ ar Ionawr 10, 2015, yn dilyn Refferendwm ar Annibyniaeth i’r Alban, gan wahodd dau aelod o’r National Collective yno i siarad. Y trafodaethau a gafwyd yn y gynhadledd honno sydd wedi arwain at sefydlu ‘AWokEN’.