Steffan Jones-Hughes
Mae Oriel Davies yn y Drenewydd ym Mhowys wedi penodi’r argraffwr Steffan Jones-Hughes yn Gyfarwyddwr arni.

Ym mis Tachwedd 2016 y cafodd ei benodi i swydd Rheolwr Celfyddydau Gweledol yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, felly mae yn gadael y swydd honno ar ôl deg mis.

Mae’n ymuno ag Oriel Davies – oriel gelf gyfoes sydd ym mhortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru – yn dilyn ymddeoliad Amanda Farr ddiwedd 2016 a fu’n gweithio yn yr oriel am ddeunaw mlynedd.

“Dw i’n hapus dros ben fy mod i wedi cael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr Oriel Davies yn ystod y cyfnod hwn yn ei datblygiad,” meddai Steffan Jones-Hughes. “Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm hynod dalentog, ac arwain y sefydliad ymlaen i adeiladu ar ei pherthynas â chynulleidfaoedd a’r gymuned.”

Ei swydd gyntaf mewn oriel oedd gydag Oriel Davies yn y 1990au cynnar, yn gwneud swydd aelod o’r staff oedd ar gyfnod mamolaeth. “Mae’r oriel wedi newid llawer ers hynny,” meddai, “ac mae’n fraint gennyf olynu Amanda Farr yn y rôl hon.”

Daeth i Aberystwyth ar ôl treulio 12 mlynedd yn Wrecsam yn arwain y gwaith o ddatblygu’r celfyddydau gweledol yn Wrecsam – gyda’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol ac wedyn gydag Oriel Wrecsam. Sicrhaodd £2.3 miliwn ar gyfer canolfan ddiwylliannol newydd yno a fydd yn agor ei drysau yn 2018.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, Gareth Lloyd Roberts, am ei benodiad yn ôl ym mis Tachwedd 2016: ‘Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ddatblygu ein henw da fel arweinydd yn y maes, gan adeiladu ar lwyddiannau mawr yr adran yn y gorffennol.’

Cafodd Steffan Jones-Hughes ei fagu i deulu Cymreig mewn pentref bach rhwng St Helens a Wigan, ac roedd ei nain yn siarad Cymraeg ond nid Cymraeg oedd iaith yr aelwyd. Mae’r artist wedi magu ei blant ei hun yn ddwyieithog.