Margaret Thatcher (Sefydliad Margaret Thatcher CCA 3.0)
Mae pryderon am fandaliaeth ymhlith y rhesymau tros wrthod codi cerflun i’r cyn-Brif Wewinidog Magaret Thatcher gerllaw Tŷ’r Cyffredin.

Fe gafodd y syniad ei wrthwynebu gan fudiad cadwraeth sy’n dweud bod rhaid cydnabod ei bod hi’n berson dadleuol.

Ac mae’n ymddangos mai diffyg handbag yw’r broblem arall wedi i gorffo’r enw, y Public Memorials Appeals Trust, wedi gofyn am ganiatâd gan Gyngor Westminster i godi’r cerflun ond fe ddywedodd mudiad cadwraethol, Cymdeithas Thorney Island, bod angen oedi.

Dim handbag

Mae awgrym hefyd nad yw teulu Mrs Thatcher ei hunan yn hoffi’r cerflun £300,000 a fyddai’n cael ei godi mewn parc bach yng nghysgod y Senedd.

Fe wrthwynebodd y corff perthnasol, y Parciau Brenhinol, hefyd gan ddweud nad oedden nhw wedi cael sicrwydd fod teulu’r cyn-Brif Weinidog o blaid y cynllun.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Public Memorials Appeals Trust eu bod yn deall nad oedd Carol Thatcher yn hoffi’r ceflun – am nad oedd yn cynnwys handbag.