Neil Kinnock (Llun: PA)
Mae pypedau Spitting Image o Neil a Glenys Kinnock wedi cael eu gwerthu am £3,400 mewn ocsiwn yng Nghaerdydd.

Roedd disgwyl iddyn nhw gael eu gwerthu am £3,000.

Roedd y ddau yn gymeriadau amlwg yn nghyfres deledu ITV oedd yn dychanu enwogion o’r byd gwleidyddol rhwng 1984 a 1996.

Arwerthwyr Rogers Jones and Co oedd wedi trefnu’r ocsiwn.

Syr Kyffin Williams

Mae deunaw o baentiadau gan Syr Kyffin Williams eisoes wedi’u gwerthu am £7,515 rhyngddyn nhw heddiw.

Fe fydd pump yn rhagor o’i baentiadau’n cael eu gwerthu yn ystod y prynhawn, ac fe allen nhw gael eu gwerthu am £17,000 rhyngddyn nhw.

Ymhlith y testunau sy’n cael sylw yn y darluniau mae tirluniau Môn ac Eryri, a stryd ddinesig yn Ffrainc.