Valériane Leblond (Llun: golwg360)
Mae artist sy’n wreiddiol o ogledd Ffrainc wedi penderfynu mynd ati i lunio map sy’n dehongli rhai o chwedlau Cymru.

Cafodd Valériane Leblond ei chomisiynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru y llynedd i greu’r map fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Chwedlau Llywodraeth Cymru eleni.

Roedd yr artist yn cydnabod fod y gwaith yn her, ond dywedodd iddi fwynhau’r profiad hefyd lle bu’n cydweithio â’r arbenigwr ar chwedlau Cymreig, Peter Stevenson, sydd ar fin cyhoeddi’i lyfr diweddaraf, Welsh Folk Tales.

“Mae Cymru yn llawn straeon,” meddai Valériane Leblond sy’n wreiddiol o ddinas Angers yn Ffrainc ond wedi ymgartrefu ym mhentref Llangwyryfon yng Ngheredigion gyda’i gŵr a’i phlant ers deng mlynedd.

“Dw i wedi bod yn meddwl a oes cymaint o straeon o ble dw i’n dod, ond sa’ i’n meddwl bod e… dw i’n meddwl bod hi’n arbennig iawn fan hyn.”

Y Mabinogi a Jemima

Rhai o’r prif ddarluniau sy’n nodweddu’r map ydi chwedlau’r Mabinogi, brwydr y ddraig wen a’r ddraig goch yn Ninas Emrys, hanesion Twm Siôn Cati, y Sipsiwn a brwydr Jemima Fawr yn Abergwaun.

“Roedd e’n amhosib ffitio pob peth, felly wnes i ddewis pethau sy’n ysbrydoli fi a gobeithio pobol eraill hefyd,” meddai’r artist wrth golwg360.

Esboniodd fod y map yn rhannu syniad tebyg â ‘Poster y Mabinogion’ gan Margaret Jones, ond bod y map hwn yn canolbwyntio ar chwedlau o bob math, gan gynnwys straeon, ofergoelion ac anecdotau llafar.

Yn y fideo yma, mae’r artist yn ei stiwdio yn Llangwyryfon yn esbonio rhai o ddarluniau’r map…