Mae pedair ffrind o Wynedd wedi diosg eu dillad er mwyn creu calendr noeth i dalu am driniaeth ganser i fam o Ben Llŷn.

Karen Vaughan, sy’n gweithio yn Siop Na-Nog Caernarfon, gafodd y syniad i stripio, ac mae wythnosau o drefnu wedi arwain at lansio’r calendr mewn digwyddiad ym mwyty Venu Pwllheli yr wythnos hon.

Bydd pob ceiniog o’r elw yn mynd at dalu am driniaeth i Donna McClelland, 40, sydd wedi cael diagnosis o ganser terfynol wedi i’r aflwydd ledaenu o’i bron i’w iau, ysgyfaint a’i hesgyrn.

Nid yw’r driniaeth mae’r fam i ddau o feibion ei angen ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd, felly mae’n rhaid iddi deithio i Ysbyty Brenhinol Lerpwl i gael triniaeth arbennig.

‘Cîn o’r cychwyn’

Yn ymuno â Karen o flaen lens y ffotograffydd Dewi Wyn, y mae Enlli Williams, Helen Whitney a Sandra Barford.

“Cynnig y syniad fel jôc wnes i i ddechrau, beth am fod y Calendar Girls Cymreig?” meddai Karen Vaughan wrth golwg360.

“Roedden nhw’n cîn iawn o’r cychwyn… falla yn meddwl na fydda’ i ddim byd yn dod ohono fo.

“Ond mi aeth hi’n wych yn y lansiad neithiwr, roedd hi’n llawn dop yno. Gobeithio y gwnawn ni werthu bob un o’r 500 calendr.”

Gellir prynu calendr am £7 o Siop Na-Nog Caernarfon, o siopau ym Mhwllheli neu drwy gysylltu â Karen Vaughan ar wefan gymdeithasol Facebook.