Sian Tomos a Ralph Sanders
Mae oriel gelf Ffin y Parc yn dathlu ar ôl derbyn gwobr oriel fwyaf llwyddiannus Cymru gan y Cyngor Celfyddydau.

Criw’r oriel yn Llanrwst sy’n ennill y wobr gan mai nhw sydd wedi gwerthu’r mwyaf o weithiau celf trwy Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru, cynllun sy’n cynnig benthyciadau di-log i ddarpar brynwyr.

Mae bron i 60 o orielau sy’n cynnig y gwasanaeth yng Nghymru ac mae Oriel Ffin y Parc wedi gwneud £173,000 mewn gwerthiannau celf trwy’r Cynllun Casglu ers Ebrill 2015.

Dywedodd perchennog Ffin y Parc Ralph Sanders fod orielau ar draws Cymru wedi gweld cynnydd amlwg mewn gwerthiant oherwydd y cynllun.

Gwneud celf yn fforddiadwy

Ychwanegodd Ralph Sanders fod y Cynllun Casglu yn gwneud celfyddyd Gymreig gyfoes yn fforddiadwy i bawb.

A dywedodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Oriel Ffin y Parc wedi gwneud yn hynod dda wrth roi hwb i werthiant celfyddyd Gymreig yn eu horiel hardd yn Nyffryn Conwy.

“Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn i artistiaid Cymraeg ac wedi sefydlu rhwydwaith o gasglwyr brwd gyda llawer o’r rhain hefyd yn brynwyr newydd.

“Mae’n hwb hanfodol i incwm ein hartistiaid ac yn eu cynorthwyo i fyw a gweithio yma.”