Mae gwaith celf gwerth £35m gan Rembrandt i’w weld yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Fe fu’r portread o Catrina Hooghsaet, a gafodd ei baentio yn y 17eg ganrif, yn cael ei gadw yng Nghastell Penrhyn ger  Bangor am flynyddoedd, ond roedd peryg i’r darlun adael Cymru oherwydd bod casglwr o dramor eisiau ei brynu.

Ond mae’r paentiad sydd wedi bod yng ngwledydd Prydain ers dros 150 bellach, i aros yn y gwledydd hyn, ac fe fydd yn cael ei ardangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru am y tair blynedd nesa’.

Mae’r artist, Rembrandt Harmenszoon van Rijn, yn cael ei ystyried yn un o baentwyr gorau Ewrop. Fe hawliodd ei le yn benodol oherwydd ei allu i bortreadu pobol fel bodau dynol gyda’u cymeriadau a’u hemosiynau.

Ond er bod ei weithiau bellach yn werth miliynau o bunnau, fe fu Rembrandt ei hun farw’n dlotyn yn 1669.