Y Fonesig Zaha Hadid
Mae’r pensaer, y Fonesig Zaha Hadid, wedi marw yn 65 oed ar ôl cael trawiad ar y galon, meddai ei chwmni.

Roedd wedi cael ei tharo’n wael tra yn Miami yn gynharach yr wythnos hon a bu farw yn yr ysbyty yno bore ma, dywedodd ei chwmni Zaha Hadid Architects.

Mae Zaha Hadid, a gafodd ei geni yn Baghdad, yn adnabyddus am ddylunio Canolfan Acwatig Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012.

Cafodd ei chynllun i adeiladu Tŷ Opera ym Mae Caerdydd ei sgrapio yn y 1990au ac nid oedd wedi cynhyrchu adeilad sylweddol yn y DU nes iddi ddylunio’r amgueddfa drafnidiaeth yn Glasgow, a gafodd ei chwblhau yn 2011.

Mae ei hadeiladau wedi cael eu comisiynu ar draws y byd a hi oedd y ddynes gyntaf i dderbyn Medal Aur Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Yn 2012 cafodd ei hurddo’n Fonesig yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines.