Siaced Indiana Jones
Fel rhan o Flwyddyn Antur Cymru yn 2016 bydd arddangosfa ‘Anturiaethau Archeolegol’ yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Ionawr.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys het, siaced a chwip y cymeriad ffuglennol o’r ffilmiau, Indiana Jones, penglog grisial o’r 19eg ganrif o’r Musée du Quai Branly ym Mharis ac Aur Inca.

A bydd trysorau o Gymru yno hefyd, gan gynnwys penglogau dynol o gladdedigaethau yn Llanbedrgoch, Ynys Môn a bydd campweithiau cynnar fel mymïaid Eifftaidd i’w gweld hefyd.

Bydd yr arddangosfa yn adrodd straeon darganfyddiadau archeolegol mawr o wareiddiadau hynafol yr Aifft, Groeg, Rhufain, America Cyn-Golumbaidd a Rapa Nui (Ynys y Pasg).

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal rhwng 26 Ionawr 2016 a 30 Hydref 2016 ac mae’r Amgueddfa’n argymell i chi archebu lle ymlaen llaw os hoffech fynd.

Gallwch wneud hynny drwy’r wefan fan hyn.