Mae disgybl saith oed o Ysgol Iolo Morgannwg wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i greu cynllun newydd ar gyfer bathodyn aelodaeth yr Urdd 2015/ 2016.

Cafodd y gystadleuaeth ei hysbysebu yng nghylchgrawn Cip ym mis Chwefror 2015.

Fe wnaeth 150 gystadlu, ond dyluniad Celyn Mitchell a ddaeth i’r brig.

Mae’r dyluniad yn dangos Mistar Urdd yn canu ar lwyfan yr Eisteddfod, ac fe fydd i’w weld ar 40,000 o fathodynnau.

Mistar Urdd yn canu

Fe ddywedodd Llio Maddocks, Golygydd Cylchgronau’r Urdd, fod safon y ceisiadau yn uchel, “ond cynllun Celyn ddaeth i’r brig gan ei fod yn lliwgar, yn hwyliog a chryn dipyn o waith wedi mynd i mewn iddo.”

Fe esboniodd fod bathodynnau aelodaeth y blynyddoedd diwethaf wedi dangos Mistar Urdd yn gwneud amrywiol weithgareddau -nofio, sgïo, chwarae rygbi -“ond yn rhyfeddol doedden ni erioed wedi gwneud un o Mistar Urdd yn canu,” ychwanegodd.

“Mae’n hynod o gyffrous meddwl y bydd plant ledled Cymru yn gwisgo ei dyluniad,” meddai Rhian Williams, Pennaeth Ysgol Iolo Morgannwg wrth sôn am lwyddiant Celyn Mitchell.

“Mi wnaethom dipyn o ffws ohoni yn y gwasanaeth ysgol, ac rydyn ni wedi annog ein disgyblion yn fwy nag erioed i ymaelodi gan mai cyd-ddisgybl iddyn nhw sydd wedi dylunio’r bathodyn.”