Yr artist, Pablo Picasso
Mae heddlu Sbaen wedi anfon tim o arbenigwyr i ynys Ffrengig Corsica, er mwyn hawlio’n ol un o luniau Pablo Picasso a’i ddychwelyd gartre’ i’r wlad.

Mae’r awdurdodau yn Sbaen yn honni fod y darlun – Pen Merch Ifanc – sy’n dyddio’n ol i 1906 yn drysor cenedlaethol na ddylid ei gario allan o’r wlad.

Mae llefarydd ar ran heddlu Sbaen yn dweud fod pedwar arbenigwr mewn treftadaeth genedlaethol a nifer o swyddogion o’r Weinyddiaeth Ddiwylliant wedi hedfan yno er mwyn dychwelyd y llun sy’n werth hyd at 24m ewro (£17m) i Sbaen.

Mae disgwyl i’r paentiad gael ei ddychwelyd heddiw. Perchennog y darlun ydi Jaime Botin.