Y murlun y credir sydd wedi cael ei wneud gan Banksy
Mae’n ymddangos fod yr artist cudd Banksy wedi datgelu murlun newydd dros y penwythnos sydd yn tynnu sylw at ysbïo gan y Llywodraeth.

Mae’r llun yn dangos tri asiant mewn gwisg ystrydebol o’r 1950au, cotiau brown hir a hetiau trilbi, wrthi’n gwrando ar sgyrsiau blwch ffôn.

Fe ymddangosodd y murlun dros nos ychydig filltiroedd i ffwrdd o ganolfan glustfeinio GCHQ,  yn Cheltenham, Swydd Gaerloyw.

Dywedodd pobl leol iddyn nhw weld offer yn cael ei gludo o’r safle ble ymddangosodd y murlun  tua 7.30yb fore Sul.

Does dim cadarnhad swyddogol wedi dod gan wefan Banksy eto mai ef sydd yn gyfrifol am y graffiti, ond yn ôl dilynwyr o’i waith mae’r murlun yn nodweddiadol o waith yr artist stryd.

“Mae’n ddatganiad cryf yn erbyn y materion preifatrwydd diweddar rydyn ni wedi dod ar eu traws yn y flwyddyn ddiwethaf gyda’r NSA a’r fath,” meddai gwefan streetartnews.

“Ni wnaeth Banksy ddewis Cheltenham ar hap gan mai yno mae cartref GCHQ.

“Er nad yw wedi’i gadarnhau’n swyddogol gan ei wefan, mae gan y darn yma nodweddion Banksy o ran naratif, steil a chyflawniad.”