Hannah Lowri Evans
Hannah Lowri Evans o Coleg Cambria enillodd y brif wobr yng Ngwobrau Ardderchogrwydd Sylfaen CBAC 2013 – digwyddiad sydd yn dathlu cyflawniadau creadigol a ysbrydolwyd gan y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Cyflwynwyd y wobr – siec o £150 a thystysgrif – i Hannah gan yr artist a’r darlledwr, Osi Osmond a Chyfarwyddwr cwmni dylunio Elfen, Guto Evans, yn Arddangosfa Ardderchogrwydd Sylfaen CBAC yn Oriel g39, Caerdydd.

Seiliodd Hannah ei gwaith ar ddementia ei hen nain, a’r atgofion gwerthfawr y mae’r cyflwr wedi cymryd i ffwrdd yn araf oddi wrthi. Mae Hannah nawr yn astudio Dylunio Graffeg a Darlunio ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.

Tair gwobr

Dyfarnwyd tair gwobr o £50 yr un hefyd am waith gafodd ganmoliaeth uchel i:

* Elizabeth Walshaw, o Coleg Bradford, am ei ffilm ddigidol yn dogfennu’r amrywiaeth diwylliannol yn Bradford gan edrych ar y mathau gwahanol o fara sydd ar gael yn y ddinas;

* Jessica Currie, o Brifysgol De Cymru, Casnewydd am ei dyluniadau ffasiwn trawiadol;

* Holly Gough, o Coleg Menai am ei gwaith tecstiliau yn cynnwys atgofion pwysig.

Y beirniaid

Ymhlith y beirniaid ar y panel roedd Osi Osmond, Guto Evans, Uwch Safonwr Sylfaen CBAC Hedley Jones a Chadeirydd yr Arholwyr David Hooper, a oedd wedi’u plesio’n arw â safon ac amrywiaeth y gwaith a arddangoswyd.

Crëwyd pob darn o waith gan 36 o fyfyrwyr a gafodd eu henwebu gan 16 o golegau a phrifysgolion a oedd yn cymryd rhan yng Nghymru a Lloegr.

Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd tan ddydd Iau, Tachwedd 14.

Mae’n rhoi llwyfan i waith gan rai o’r artistiaid mwyaf talentog sy’n dilyn cyrsiau Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio mewn disgyblaethau fel paentio, cerflunio, graffeg, cerameg, ffilm/ffotograffiaeth, tecstilau ffasiwn a dylunio 3D.