Mae fideo ar dudalen Twitter y digrifwr Beth Angell yn dangos bod digon o hwyl i’w chael yn ystod cyfnod o warchae yn sgil y coronafeirws.

Mae hi, ei gŵr Gareth Roberts a’u merched Ffion a Betsan wedi ail-greu a Chymreigeiddio her Tik Tok boblogaidd.

Mae’r her yn gofyn bod pobol yn ateb cwestiynau am ddau berson sydd â’u pennau uwchben powlen o ddŵr, gan wthio pen y person y mae cyfres o ddatganiadau’n fwyaf perthnasol iddyn nhw.

Digrifwr yn cael “tipyn o laff” wrth Gymreigeiddio her Tik Tok

Beth Angell yn chwilio am weithgaredau i’r teulu

Mae fideo ar dudalen Twitter y digrifwr Beth Angell yn dangos bod digon o hwyl i’w chael yn ystod cyfnod o warchae yn sgil y coronafeirws.

Mae hi, ei gŵr Gareth Roberts a’u merched Ffion a Betsan wedi ail-greu a Chymreigeiddio her Tik Tok boblogaidd.

Mae’r her yn gofyn bod pobol yn ateb cwestiynau am ddau berson sydd â’u pennau uwchben powlen o ddŵr, gan wthio pen y person y mae cyfres o ddatganiadau’n fwyaf perthnasol iddyn nhw.

Egluro Tik Tok

“Gwefan gymdeithasol lle mae pobol yn dilyn trends ac yn gwneud pethau yn yr un patrymau ydi Tick Tock, a ddaru ni wneud yr un head dunking,” eglura Beth Angell wrth golwg360.

“Ond yn lle ei wneud o’n Saesneg, roedden ni’n meddwl y basa’n well gweld un Cymraeg, dim ond am ychydig o hwyl.”

“Efo lwc, mi fydd pobol yn deall bo’ nhw i fod i’w wneud o hefyd.”

Ond mae hi’n cyfaddef nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn Tick Tock cyn y lockdown.

“Pan oedd y merched yn ceisio ei ddangos o imi cyn y lockdown roeddwn i’n rowlio fy llygada arno,” meddai.

“Ond rŵan mae o’n rhywbeth i’w wneud efo’r teulu ac yn dipyn o laff.”

Cadw’n brysur

Dywed Beth Angell ei bod hi’n cadw’n weddol brysur yn ystod y lockdown, a hynny er bod y byd comedi, i bob pwrpas, wedi dod i ben am y tro.

“Dwi’n dal i weithio felly mae hynna’n mynd â lot o’r dydd, a dwi’n coginio pethau yn y ffordd fwyaf time consuming bosib,” meddai.

“Felly dwi’n gwneud pethau fel gwneud pasta o scratch, gwneud gwahanol fath o pizzas megis calzone.

“Rydan ni’n lwcus fod pawb yn y tŷ efo diddordebau tebyg, ryda ni’n licio’r un math o gerddoriaeth, ac os ydi rhywun isio bod ar ben ei hun mae o’n cael.”