Mae Russell T Davies, yr awdur sgriptiau teledu o Abertawe, yn dweud ei fod e’n poeni am y gyfres Queer As Folk o’r dechrau’n deg.

Cafodd y ddrama, sy’n adrodd hanes dynion hoyw ifainc ym Manceinion, ei thrafod ar lwyfan yr ŵyl deledu eleni wrth i banel yn cynnwys yr awdur ei hun drafod gwaddol y gyfres boblogaidd.

“Pan aethon ni o amgylch Canal Street yn ei saethu hi, roedd yna ragdybiaeth o fath y byddai’n diflannu,” meddai yn ystod y sesiwn. Sioe Channel 4 oedd hi. Roedd hi’n hwyr y nos…

“Fe symudon nhw hi o 10 o’r gloch i 10.30 – lle’r oedden ni’n meddwl ei bod hi wedi canu arnon ni. e wnaethon nhw addo 10 o’r gloch i ni, ond fe welson nhw’r golygfeydd rhywiol…

“Alla’ i ddim eu beirniadu nhw oherwydd fe wnaethon nhw ein cefnogi ni’n llwyr gyda’r sioe. Ond fe wnaethon nhw gael ofn. Roedd yna ragdybiaeth o fath hefyd y byddai’n dylanwadu ar raglen ddogfen Channel 4 am ddiffenestru Prague. Doedd hi ddim yn mynd i weithio.

“Er bod cryn dipyn o ffwdan, llawer o nonsens, roedd hi hefyd yn hyfryd. Oherwydd dw i’n creu pethau iddyn nhw gael eu gweld. Ac os yna lawer o ffwdan, hwrê. Mae’n ffwdan wych i’w chael.”