Mae un o ddramodwyr pennaf y Gymraeg yn dweud mai’r hyn yr hoffai ei weld yn y flwyddyn newydd yw cwmnïau theatrig yn “cymryd mwy o risg” trwy roi llwyfan i ddramodwyr ifanc.

Mae gan Aled Jones Williams flwyddyn fawr ar y gweill, gyda disgwyl i ddwy ddrama o’i eiddo gael eu llwyfannu.

Dywed fod byd y ddrama a’r theatr “mewn cyflwr da” yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda llawer o “actorion rhagorol a chyfarwyddwyr da a mentrus” i’w cael.

Ond yn ogystal ag “ariannu teilwng” ar gyfer cynyrchiadau, mae’r dramodydd a’r prifardd yn  gobeithio y bydd 2019 yn gweld gweithiau pobol ifainc yn cael mwy o sylw.

“Mae rhywun fel Llŷr Titus a rhywun fel Mared Llywelyn, i enwi dim ond dau, sydd â phethau gwirioneddol dda i’w dweud, a dw i’n meddwl y dylai cwmnïau gymryd mwy o risg ar bobol ifanc,” meddai Aled Jones Williams.