Mae cerddoriaeth gyfoes Gymraeg mewn “cyflwr arbennig o dda” ar drothwy 2019, yn ôl un sy’n gwneud gwaith ymchwil i’r sîn.

Daw sylwadau Owain Schiavone ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod, yn ei farn ef, yn “gynhyrchiol iawn”, gyda llawer o artistiaid newydd yn dod i’r amlwg tra bo rhai artistiaid sefydledig wedi cymryd cam yn ôl.

Ymhlith yr artistiaid cyffrous sy’n cael eu henwi ganddo yw Los Blancos, Alffa, Adwaith a Gwenno, ac mae’n awyddus i weld beth sydd gan y rhain i’w cynnig yn y flwyddyn newydd.

Ond o ran y gwendidau, mae Owain Schiavone yn teimlo bod angen pryderu ynghylch rhai pethau, yn enwedig prinder lleoliadau gigs, diffyg hyrwyddwyr “gwirioneddol dda”, a’r ffaith bod gwyliau cerddorol yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar nawdd cyhoeddus.

“Mae safon y gerddoriaeth, yn sicr, yn uchel dros ben, ac mae i fyny i ni fel hyrwyddwyr ac ati i sicrhau bod yna lwyfan priodol ar eu cyfer nhw,” meddai.