Mae gig yng Nghaernarfon heno (Tachwedd 30) yn garreg filltir i un o’r cerddorion a fydd yn perfformio.

Bydd Phil Gas a’r Band yn cefnogi Bryn Fôn yn Neuadd y Farchnad, ac yn dathlu dwy flynedd o ganu o flaen cynulleidfa.

Doedd  Phil ‘Gas’ Williams erioed wedi bwriadu sefydlu band tan iddo gael ei wahodd i berfformio yn Neuadd y Farchnad union ddwy flynedd yn ôl, meddai.

“Wnes i brynu iwcalili a dysgu fy hun wrth wylio fideos YouTube,” meddai wrth golwg360. “Ac ambell waith roeddwn yn mynd i’r dafarn gydag iwcalili a chanu.

“Wnaeth Bryn Fôn fy ngweld yn canu felly wnaeth o fy ngwahodd i chwarae yn Market Hall dwy flynedd yn ôl i ganu ef fo ar y llwyfan.

“Gwnaeth pawb fwynhau hynna, a gwnaethon nhw fy annog i ddechrau band fy hun. A dyna beth wnaethon ni. Y Chwefror wedi hynny, cafodd Phil Gas a’r Band ei ffurfio.

“Felly mae’n nuts  medru cefnogi’r dyn ei hun [heno]! Fo ydy’r boi.”

Mae’n canmol Bryn Fôn am ei helpu wrth iddo recordio’i albwm, ac wrth iddo baratoi ar gyfer cystadleuaeth deledu Cân i Gymru, ac mae yn disgwyl y bydd 500 yn y gig heno.