Bu farw’r gantores opera Montserrat Caballe, a ganodd ddeuawd Barcelona gyda Freddie Mercury, yn 85 oed.

Daeth y gân yn ‘anthem’ i’r Gemau Olympaidd yn Barcelona ym 1992, yn dilyn marwolaeth canwr y grŵp Queen.

Dywedwyd fod y soprano o Gatalwnia, a ganodd mewn 90 o operau gwahanol, wedi “ysbrydoli miliynau” o bobl gyda’i llais.

Roedd y seren wedi bod yn yr ysbyty ers mis Medi.

Fe’i ganwyd yn Barcelona i deulu dosbarth gweithiol – ac roedd yn canu cantatas Bach yn ddim ond saith oed.

Dywedwyd ei bod wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd problemau coden y bustl (gall-bladder).