Rhuanedd Richards, cyn-Brif Weithredwr Plaid Cymru, sydd wedi’i phenodi yn Olygydd newydd Radio Cymru a gwasnaeth ar-lein Cymru Fyw.

Fe ddechreuodd ei gyrfa yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni gwleidyddol a newyddion blaenllaw y darlledwr.

Wedi hynny, fe fu’n Brif Weithredwr Plaid Cymru, ac yna’n ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddarach yn Ymgynghorydd Polisi i Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn wreiddiol o Gwm Cynon, mae Rhuanedd Richards bellach yn byw yn Pontypridd gyda’i theulu.

“Tra’n cael fy magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, BBC Radio Cymru oedd y dystiolaeth yr oeddwn ei hangen pan yn blentyn fod y Gymraeg yn iaith fyw,” meddai.

“Yn fy arddegau, rhaglenni cerddoriaeth yr orsaf agorodd fy llygaid i ddiwylliant Cymraeg cyffrous a hyfyw, ac wrth ddechrau fy ngyrfa newyddiadurol yn y nawdegau, braint oedd gohebu a chyflwyno ar yr orsaf.

“Mae’r cyfle hwn i arwain y gwasanaeth yn un cyffrous tu hwnt, a hynny’n enwedig yn dilyn llwyddiant Betsan wrth lansio’r ail orsaf, BBC Radio Cymru 2, yn gynharach eleni.”

Fe fydd yn dechrau yn ei swydd yn yr hydref.