Mae pwyllgorau apêl Caerdydd wedi cyrraedd eu targed o £320,000 ar gyfer cynnal prifwyl 2018.

Daw’r cyhoeddiad gyda mis i fynd tan i’r Brifwyl gael ei chynnal yn y brifddinas rhwng Awst 3 a 11.

Wrth groesawu’r newyddion, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Ashok Ahir, yn talu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n galed yn codi arian dros y ddwy flynedd ddiwetha’.

Mae hefyd yn dweud mai “braf” oedd gweld cymaint o bobol ifanc yn rhan o’r digwyddiadau, a’i fod yn “gobeithio” y byddan nhw’n parhau i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg yn  eu cymunedau yn y dyfodol.

“Syniadau wedi llifo”

“Dyw codi arian byth yn hawdd, ac mae’r hinsawdd economaidd yn parhau’n anodd,” meddai.

“Ond mae’r tîm wedi dyfalbarhau ac wedi meddwl am ffyrdd newydd o godi arian – o redeg rasys i ddringo mynyddoedd, ac o drefnu teithiau tywys hanesyddol i werthu siampên a chynhyrchu mapiau.

“Mae’r syniadau wedi llifo a’r arian wedi cyrraedd y Gronfa.”