Mae Caerdydd yn dal yn y ras wrth i Channel 4 chwilio am leoliad ar gyfer pencadlys newydd – ond mae Abertawe, Port Talbot a Wrecsam wedi’u diystyrru.

Mae nifer o ddinasoedd a rhanbarthau wedi cyrraedd y rhestr fer, ond Caerdydd yw’r unig ddinas yng Nghymru yng nghanol Glasgow, Manceinion (ardal Greater Manchester), Leeds, Lerpwl a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae Belffast, Brighton, Newcastle-Gateshead, Nottingham, Sheffield a Stoke hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer ‘hwb creadigol newydd’.

Yn ôl Channel 4, mae’r dinasoedd a rhanbarthau ar y rhestr fer “wedi bodloni’r meini prawf oedd ganddyn nhw wrth geisio gwireddu eu gweledigaeth”.

Fe fydd y sianel yn ymweld â phob dinas neu ranbarth yn ystod ail gyfnod y broses ddewis.