Harvey Weinstein (David Shankbone CCA3.0)
Mae heddlu yng ngwledydd Prydain bellach yn ymchwilio i honiadau rhywiol yn erbyn y cynhyrchydd o Hollywood, Harvey Weinstein.

Mae un actores, Sophie Dix, wedi honni fod yr enillydd Oscar wedi ymosod yn rhywiol arni hi mewn gwesty yn Llundain pan oedd hi’n 22 oed yn 1990.

Fe gadarnhaodd Heddlu Glannau Mersi eu bod wedi trosglwyddo gwybodaeth i Heddlu Llundain am ymosodiad honedig gan Harvey Weinstein.

Dyma’r diweddara’ mewn llu mawr o honiadau sydd wedi cael eu gwneud yn erbyn y dyn oedd yn un o ffigurau mwya’ pwerus diwydiant ffilmio’r byd.

Mae tair actores wedi gwneud cyhuddiadau o dreisio yn ei erbyn a mwy a mwy o fenywod – gan gynnwys actoresau enwog – wedi sôn amdano’n eu plagio ac ymyrryd yn rhywiol â nhw.

Fel Jimmy Savile’

Mae actoresau amlwg eraill – gan gynnwys Jane Fonda ac Emma Thompson – wedi gwneud safiad yn ei erbyn, gan ddweud hefyd bod ymddygiad o’r fath yn gyffredin yn y diwydiant.

Fe ddywedodd Emma Thompson wrth y rhaglen deledu Newsnight fod yr achos yn debyg i un y cyflwynydd teledu Jimmy Savile, gyda dyn pwerus yn manteisio ar ei safle.

Mae’r corff teledu a ffilm BAFTA wedi atal aelodaeth Harvey Weinstein ac fe fydd Pwyllgor yr Oscars yn cyfarfod i drafod eu hymateb nhwthau fory.

Yn y cyfamser, mae Harvey Weinstein wedi cyfadde’ “gwneud camgymeriad” gan ddweud ei fod yn chwilio am help ac yn gofyn “am ail gyfle”.