Rhodri Miles fel Sieiloc (Llun: Cynhyrchiadau Miles)
Mae actor o Bontarddulais yn gobeithio herio’r ystrydebau am y portread o Iddewon yn nramâu Shakespeare.

Mae’r ddrama un-dyn, Sieiloc, ar daith ar hyn o bryd ac mae’r actor Rhodri Miles yn esbonio ei fod yn annog pobol i feddwl ai dihiryn ynteu ddioddefwr oedd y benthycwr arian enwog yn nrama The Merchant of Venice.

Mae’n gwneud hyn o safbwynt cymeriad Iddewig arall, sef Tiwbal.

“Dim ond wyth llinell oedd Shakespeare wedi rhoi i Tiwbal yn y ddrama wreiddiol, felly mae’r sioe hon yn gyfle iddo gamau i ganol y llwyfan, dweud ei stori a serennu,” meddai.

Actio – ‘gyfra fregus’

Mae’r sioe un-dyn wedi’i hysgrifennu gan yr actor Gareth Armstrong, gyda Rhodri Miles wedi’i haddasu i’r Gymraeg ar y cyd â’r actores Rhian Morgan a’r cyfieithydd Bethan Mair.

Dramâu un-dyn ydi bara menyn Rhodri Miles ar hyn o bryd, meddai, gan esbonio ei fod wedi cael llwyddiant ar ddramâu un-dyn am yr actor Richard Burton a’r bardd Dylan Thomas.

“Mae gyrfa actor yn fregus tu  hwnt achos chi’n dibynnu ar alwad ffôn gan bobol eraill i gynnig gwaith i chi. Mae gwneud dramâu un-dyn yn torri’r elfen yna allan, ac yn golygu fy mod yn gallu parhau i wneud yr hyn dw i’n hoffi’i wneud.”

Mae Rhodri Miles hefyd yn adnabyddus am ei waith teledu gan gynnwys Emyn Roc a Rôl, Pobol y Cwm,Richard II – Hollow Crown Series, Game of Thrones ac Atlantis.

Sieiloc

Yn y ddrama Sieiloc mae’n portreadu’r actorion sydd wedi actio rhan Sieiloc yn y theatr ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Henry Irving, Edmund Kean, a Charles Macklin.

“Dw i’n mynd mewn a mas o ddangos y cymeriadau gwahanol yr oedden nhw wedi eu chwarae pan oedden nhw’n portreadu Sieiloc,” meddai Rhodri Miles wrth gylchgrawn Golwg yn rhifyn Medi 7.

Ac mae’n esbonio fod iaith y ddrama yn “gyfoethog dros ben” ond ei bod “yn bleser” i ddysgu a chyflwyno’r iaith.

Dyma glip ohono’n llefaru un o rannau’r sioe.  

Mae Sieiloc ar daith drwy gydol y mis hwn tan ganol Tachwedd gyda’r dyddiadau i’w gweld yma.