Y diweddar Don Williams (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae aelod o un o ddeuawdau canu gwlad mwyaf adnabyddus Cymru wedi talu teyrnged i’r diweddar Don Williams, a fu farw ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y canwr gwlad o Tecsas yn adnabyddus am ei lais a’i bersonoliaeth addfwyn – derbyniodd y llysenw “Cawr Addfwyn” – ac am ei gân enwocaf sef ‘I Believe in You’.

Fe gyrhaeddodd 17 o’i ganeuon safle rhif 1 yn siartiau’r Unol Daleithiau, ac ymunodd ag Oriel Anfarwolion Canu Gwlad yn 2010.

Yn ôl Iona Boggie o’r deuawd canu gwlad, Iona ac Andy, roedd dylanwad Don Williams ar ganu gwlad yng Nghymru “yn fwy” nag unrhyw artist arall.

Roedd ei ddylanwad ar Gymru yn ymestyn yn ehangach na thonfeddi sain, ac mae’n debyg y bu’n Llywydd ar Glwb Canu Gwlad Bae Colwyn – clwb ddaeth i ben yn y nawdegau.

Colled i’r byd canu gwlad

“Roedd Don Williams wedi dylanwadu mwy na neb ar ganu gwlad yng Nghymru,” meddai wrth golwg360. “Ei ganeuon ef oedd y rhai cyntaf i ni eu dysgu ac maen nhw dal mor ffres heddiw.”

“Mae Don Williams yn enw mae pawb yn ei adnabod ac mae pawb yn gwybod ei ganeuon. Roedd hyd yn oed yn Llywydd ar Glwb Canu Gwlad Bae Colwyn yn yr wythdegau. Colled fawr i’r byd canu gwlad.”

Bu farw Don Williams yn ei gartref yn Alabama ar Fedi 8, yn 78 blwydd oed.