Victoria Wood
Fe fydd dyddiaduron a llyfrau lloffion sydd heb eu gweld o’r blaen yn sail i gyfres ddogfen newydd am fywyd a gwaith y ddigrifwraig ac awdur comedi, Victoria Wood.

Fe fydd y rhaglen ar sianel deledu Gold yn cynnwys lluniau o gefn llwyfan rhai o’i rhaglenni mwyaf adnabyddus, gan gynnwys Dinnerladies, gan ddangos sut y cawson nhw eu creu.

Bydd y gyfres, Dinnerladies Diaries, hefyd yn cynnwys cyfweliadau â chast Dinnerladies yn ystod tair rhaglen.

Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr gweithredol Lindsay Jex fod y rhaglen wedi dod o hyd i “emau heb eu gweld o’r archif”.

Ychwanegodd y cyd-gyfarwyddwr arall, Iain Coyle fod “deunydd rhyfeddol” wedi cael ei ddarganfod… a fydd yn rhoi mewnwelediad unigryw i ni o sut y cafodd ein hoff sioeau eu creu a’u cynhyrchu”. 

Bu farw Victoria Wood o ganser yn 62 oed fis Ebrill y llynedd.