Yn dilyn ei farwolaeth yn 49 oed, y digrifwr o Gaerdydd, Sarah Breese yw’r ddiweddaraf i dalu teyrnged i’r digrifwr a’r cynhyrchydd comedi, Gethin Thomas.

Fe fu’r ddau yn cydweithio yng nghwmni Zeitgeist Entertainment ar gyfresi a rhaglenni comedi i S4C.

A hithau’n newydd i’r sîn gomedi Gymraeg pan ddechreuodd hi weithio i’r cwmni, eglurodd hi wrth golwg360 fod Gethin Thomas yn un o’r dylanwadau cynharaf arni “fel comedïwr go iawn”.

“O’dd o’n amser cyffrous iawn pan nes i gwrdd â Gethin am y tro cyntaf achos o’n i’n newydd i stand-yp.

“O’n i dal yn trio gweithio allan y byd comedi Cymraeg hefyd, ac oedd o’n wych. Gyda Gethin a Dan Thomas, o’n i wedi dod i mewn ac am y tro cyntaf, roedd rhywun yn gweld fi fel comedïwr go iawn.

“Roedd o’n amlwg yn neis bod Geth wedi cymryd siawns arna’i a rhoi cyfle i fi fod yn rhan o’r gyfres Gwerthu Allan am y tro cyntaf. Oedd hwnna’n wych.”

Cyfraniad mawr

Drwy gydweithio ar gyfres o brosiectau y daeth Sarah Breese i adnabod nid yn unig Gethin Thomas y cynhyrchydd, ond Gethin Thomas y person hefyd.

“Wnes i ddod i nabod Geth yn dda, gwybod be oedd o’n licio bwyta o’r coffee shop lleol i’r swyddfa.

“O’dd e’n cymryd y gwaith yn seriys iawn. O’dd gwaith yn bwysig iddo fo ac oedd o’n gweithio’n galed am oriau hir, yn treulio cymaint o nosweithiau yn y swyddfa yn gweithio allan be i wneud ar brosiectau neu sgwennu jôcs i rywun.

“Oedd y stwff oedd o’n neud yn bwysig iddo fo ac oedd o’n gwneud beth bynnag oedd o’n gallu i ddod â phobol newydd i mewn a g’neud beth bynnag oedd o’n gallu i helpu. Dwi’n ddiolchgar am bopeth oedd o wedi neud i fi a chymryd siawns arna’i.

“Roedd o’n ddyn da, yn llawn syniadau, yn llawn bywyd ac mae o wir yn sioc fod hyn wedi digwydd iddo fo mor ifanc.”