Athro Sioned Davies
Mae’r Athro Sioned Davies wedi camu o’r neilltu ar ôl ugain mlynedd yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hi oedd yr Athro benywaidd cyntaf ar yr adran.

O dan ei harweiniad, fe dyfodd yr adran i fod ymhlith yr adrannau mwyaf blaenllaw ym meysydd astudiaethau canoloesol, caffael iaith, polisi a chynllunio.

Yn 2007, cafodd hi gydnabyddiaeth am ei chyfieithiad o’r Mabinogi.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Sioned Davies: “Mae arwain yr Ysgol dros yr holl flynyddoedd wedi bod yn fraint o’r mwyaf.

“Un o’r rhesymau pam i mi aros yn y swydd cyhyd oedd brwdfrydedd ac ymroddiad y staff – mae pob un yn barod i fynd yr ail filltir i helpu myfyrwyr a chefnogi ei gilydd.

“Rydw i’n gwybod y bydd yr Ysgol yn mynd o nerth ac edrychaf ymlaen, ar ôl treulio blwyddyn o waith ymchwil, at gyfrannu ymhellach at lwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Gyrfa

Yn 2012, hi oedd cadeirydd tasglu oedd yn ymchwilio i ddysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4, er mwyn ceisio codi safonau.

Yn deillio o hyn mae’r rhaglen Cymraeg i Bawb, sydd wedi rhoi’r cyfle i gannoedd o fyfyrwyr ddysgu Cymraeg yn y brifysgol, a’r Rhaglen Sabothol Genedlaethol i helpu darlithwyr i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dr Dylan Foster Evans fydd Pennaeth newydd yr Adran, ac fe fydd yn dechrau yn y swydd ar Awst 1.