Llun: gwefan Channel 4
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod am wneud cynnig i geisio denu Channel 4 i adleoli yng Nghaerdydd.

Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal ymgynghoriad i ddyfodol y sianel gan awgrymu adleoli swyddfeydd o Lundain.

Yn dilyn hyn mae dinasoedd gan gynnwys Manceinion, Lerpwl a Birmingham wedi cyflwyno ceisiadau i geisio denu’r sianel – ond mae Channel 4 wedi rhybuddio y gallai fod “risgiau” pe baen nhw’n symud yn gyfan gwbl o Lundain.

‘Llawer i’w gynnig’

Mewn dogfen ymateb i’r ymgynghoriad mae Llywodraeth Cymru’n nodi y gallai Caerdydd fod yn “ddelfrydol” ar gyfer y sianel oherwydd y “clwstwr cryf” o ran darlledu sydd yn yr ardal.

Yn ôl Llywodraeth Cymru byddai adleoli swyddi yng Nghymru “yn enwedig y canolbwynt cynhyrchu sydd eisoes yn ffynnu o gwmpas Caerdydd a de’r wlad – yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer ail-leoli o’r fath.”

Maen nhw hefyd wedi mynegi ei bod yn “anffodus” nad oes “canolfan barhaol na staff comisiynu” gan Channel 4 yng Nghymru.

“Mae’n amlwg fod gan Gymru lawer i gynnig i Channel 4 sydd yn wirioneddol ymrwymedig i weithio y tu allan i Lundain” a hynny o ganlyniad i “goridor creadigol” yr M4.