Peter Capaldi (Llun: PA)
Fe fydd gwylwyr y gyfres boblogaidd Doctor Who, sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd, yn cael clywed yn ddiweddarach heddiw pwy yw’r Doctor newydd.

Bydd cyhoeddiad ynghylch pwy fydd olynydd Peter Capaldi ar ddiwedd rownd derfynol y dynion yn Wimbledon.

Y Doctor newydd fydd y trydydd Doctor ar ddeg.

Mae Peter Capaldi eisoes wedi dweud y bydd ei ymadawiad yn “fwy cymhleth na’r rhai eraill yn ddiweddar”.

Bydd e’n camu o’r neilltu ar ôl y rhifyn Nadoligaidd arbennig.

Kris Marshall yw’r ffefryn i’w olynu ar hyn o bryd, ond mae nifer o enwau eraill wedi’u crybwyll hefyd, gan gynnwys:

  • Phoebe Waller-Bridge
  • Jodie Whittaker
  • Michaela Coel
  • Tilda Swinton
  • Natalie Dormer
  • Tom Rosenthal
  • David Harewood