Mae wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau heddiw cyn i un o wyliau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg ddigwydd yng Nghaerdydd dros benwythnos cyntaf mis Gorffennaf.

Bydd 30 o ddigwyddiadau ymylol yn y brifddinas – o deithiau tywys hanesyddol a theithiau blasu a chlybiau stori i blant, i gigs a nosweithiau cyrri.

Bydd amryw o leoliadau yn cael eu defnyddio, fel Clwb Ifor Bach, Theatr y Chapter a Sain Ffagan.

Bydd yr ŵyl fawr y penwythnos nesaf ar safle newydd eleni – ar gaeau Llandaf, yn hytrach na faes Castell Caerdydd yng nghanol y ddinas.

Yn ogystal â hufen y byd roc a phop Cymraeg, fe fydd yna 50 o stondinau bwyd, diod a chelf a chrefft yng Ngŵyl Tafwyl eleni.

‘Gŵyl genedlaethol’

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl, mae’r digwyddiad bellach yn un i Gymru gyfan ac nid dim ond i bobol Caerdydd, gan fod tua hanner y bandiau a’r stondinwyr yn dod o’r gogledd.

Daeth tua 36,000 i fwynhau’r arlwy y llynedd yng Nghastell Caerdydd, a bydd miloedd yno eto ar y penwythnos olaf – gyda llawer wedi heidio i’r brifddinas o bob cwr o’r wlad.

“Mae hi yn ŵyl genedlaethol erbyn hyn,” meddai Llinos Williams o Fenter Iaith Caerdydd, sy’n trefnu’r jamborî.

“Mae’r gynulleidfa yn dod o ar draws Cymru ac ers i ni droi yn ddigwyddiad penwythnos tros ddeuddydd, mae pobol yn gallu aros am y noson a gwneud penwythnos ohoni.

“Ac mae ein stondinwyr ni, y celf a chrefft, fyswn i’n dweud bod y rheiny o’r gogledd, ac mae hanner y bands o’r gogledd. Mae hi yn sicr yn ŵyl genedlaethol, dim jesd yn ŵyl i Gaerdydd dim mwy.”

Am ddim

Un o nodweddion unigryw Tafwyl yw bod yr ŵyl am ddim – ac mae’r trefnwyr yn talu’r costau drwy grant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru a £40,000 o nawdd gan fusnesau lleol.

Ac eleni maen nhw’n cael defnyddio caeau Llandaf am ddim, a Chyngor Caerdydd hefyd yn cwrdd â’r £50,000 o gostau ar gyfer symud Tafwyl i’w leoliad newydd.

“Hefyd rydan ni yn denu ryw £30,000 o incwm dros y penwythnos drwy’r bar a’r nwyd a’r stondinau,” eglura Llinos Williams sy’n falch bod yr ŵyl am ddim.

“Rydan ni eisiau denu pobol newydd i fwynhau Tafwyl a’i gadw fo yn hollol agored i bawb.”

Tafwyl yn tyfu

Eleni fydd y Tafwyl fwyaf erioed, gyda mwy o lwyfannau cerddoriaeth byw a stondinau nag erioed o’r blaen.

Wrth symud o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf, mae gan y trefnwyr fwy o le i wneud mwy. Bu’n rhaid symud oherwydd bod y babell letygarwch enfawr a gafodd ei chodi o fewn muriau’r castell ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid a Juventus, yn dal i gael ei thynnu lawr.

“Mae caeau Llandaf yn caniatáu i ni ei wneud o’n fwy ac yn well, achos roedden ni dipyn bach wedi ein cyfyngu yn y castell,” eglura Llinos Williams.

Mwy am Tafwyl yn rhifyn yr wythnos o Golwg.