Cast rhaglen 'Anita' (Llun: S4C)
Ffigurau gwylio isel yw’r rheswm pam y mae rhaglen S4C, Anita, wedi dod i ben ar ôl dwy gyfres yn unig, yn ôl llefarydd ar ran y sianel.

Roedd cyd-awdur y gyfres, Caryl Parry Jones wedi bod yn dweud ar wefan gymdeithas Facebook ei bod hi’n “siomedig” na fyddai trydedd cyfres o’r rhaglen.

Yr actores a’r gantores fu’n chwarae rhan y prif gymeriad, oedd wedi ymddangos ar y sgrîn am y tro cyntaf yn y gyfres gomedi Caryl a’r Lleill. Mae Anita yn ddysgwraig sy’n siarad cymysgedd o Gymraeg a Saesneg, yn gefnogol i’r Gymraeg ac yn annog pobol eraill i fynd ati i ddysgu’r iaith.

Mae hi’n fam sengl i Jools, ac yn byw yng Nghaerdydd, lle mae hi’n gweithio mewn cartref hen bobol ac yn ffrind mawr i’r Cymro Cymraeg, Arthur. Ond mae perthynas Anita a Jools (Miriam Isaac, merch Caryl Parry Jones) yn newid wrth i Anita gyfarfod â Bedwyr (Bryn Fôn) ar wefan garu.

Caryl Parry Jones oedd wedi ysgrifennu’r gyfres gyda’i chyfnither Non Williams. Dywedodd S4C eu bod wedi canslo’r gyfres oherwydd “ffigyrau gwylio siomedig.”

Facebook

Meddai Caryl Parry Jones ar Facebook: “Yn amlwg mae Non Williams a fi yn siomedig ofnadwy ond yn ddiolchgar tu hwnt o fod wedi cael y cyfle i drio rhywbeth gwahanol ar gyfer cynulleidfa chydig yn wahanol. Diolch o galon i bawb ddaru fwynhau ac am eich negeseuon lyfli drwy gydol y ddwy gyfres.”

Yn ei neges Saesneg ar Facebook, eglura fod a wnelo penderfyniad S4C â niferoedd fu’n gwylio’r rhaglen, er nad yw’r neges Gymraeg yn cyfeirio’n benodol at hyn.

Ymateb S4C

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Er i garfan o’r gynulleidfa fwynhau Anita, roedd y ffigyrau gwylio (ar sgrin ac ar-lein) a ffigyrau gwerthfawrogiad yn siomedig, ac yn dangos dirywiad o gyfres 1 i gyfres 2 ac yn is na chyfartaledd y slot ddarlledu.

“Rydym yn ddiolchgar i Caryl, Non a gweddill y cast a’r criw cynhyrchu am eu gwaith ac am arbrofi gyda’r defnydd o ddwy iaith i greu drama.

“Yn anffodus ni wnaeth yr arbrawf daro deuddeg gyda mwyafrif y gynulleidfa, ond rydym yn ymrwymedig i barhau i geisio adlewyrchu’r Gymru fodern a’r patrymau ieithyddol amrywiol.”