Juliette Binoche yn y ffilm Let Sunshine In, Llun: Gwyl Ffilm Cannes
Dylan Edwards sydd yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ar ran golwg360

Peth doniol yw hiwmor. Ac yng nghyd-destun Gŵyl Ffilmiau Cannes, mae’n ddoniolach fyth. Yn aml mae pobol yn sôn am baradocs yr ŵyl – ar un pegwn mae Cannes y socialites, y partïon yacht a’r carped coch, ac ar y llall mae’r ffilmiau, a’r ŵyl yn dal i gael ei gweld fel un fwyaf dethol a mawreddog byd ffilmiau’r auteurs rhyngwladol.

Yr hyn sy’n uno’r ddau begwn ydy eu hamharodrwydd i gael eu gweld yn ddim llai na phethau hollol, hollol ddifrifol, boed hynny o ran rhwysg y byd ffasiwn neu yn nhueddiad y prif ddetholiad i glodfori Themâu Mawr ar draul gweithiau llai ac ysgafnach. Ble bynnag ry’ch chi’n troi ar y Croisette, difrifoldeb sy’n teyrnasu.

Mewn pâr o ffilmiau enwau-mawr a wyliais yn ystod fy oriau cyntaf yn yr ŵyl, sydd yn 70 oed eleni, datgelir y ddeuoliaeth yma mewn ffyrdd dadlennol. Mae un ffilm o Rwsia, ac un o Ffrainc; un gan ddyn, un gan ddynes; ac un yn mygu dan orddifrifoldeb crand tra bo cyfoeth y llall yn deillio o’r rhyddid a’r pleser mae’n eu canfod yn ysgafnder bywyd bob dydd.

Cafodd Loveless, y ffilm gyntaf o’r brif gystadleuaeth i gael ei dangos i’r wasg, ei hystyried yn fuan iawn yn un o’r ymgeiswyr cryf i ennill y Palme d’or. Roedd hyn i’w ddisgwyl; ers ei un gyntaf mae pob un o ffilmiau’r cyfarwyddwr Andrey Zvyagintsev, o bosib auteur mwyaf blaenllaw sinema gyfoes Rwsia, wedi hawlio’u lle yn netholiad swyddogol Cannes. Ond pan ddarllenais i rai adolygiadau brys ar ôl y dangosiad nos Fercher, synnais o weld cyn lleied roedd eu hargraffiadau’n ategu nodweddion y ffilm a wyliais i.

Ffilm yw hon am bâr oedd yn arfer bod yn briod a’u cariadon newydd yn dygymod â diflaniad eu mab mewn tref Rwsiaidd lwyd, anhysbys, tua 2012. Ry’n ni’n gwybod mai dyma’r cyfnod dan sylw am fod Zvyagintsev yn pupro’r ffilm â golygfeydd hir o’r prif gymeriad (y gŵr; wrth gwrs) yn gwrando ar adroddiadau newyddion – dim ond un o’r technegau amrwd a ddefnyddia’r cyfarwyddwr i wthio trosiad a ‘datganiad’ trwsgl i mewn i’w ddrama ddomestig denau.

Mae’n adrodd cyfrolau bod y film ffuantus, hunanfoddhaus hon, a’i thuedd amlwg tuag at themâu mawrion sy’n dynodi ffilmiau fel rhai ‘pwysig’ mewn cylchoedd tebyg i Cannes, yn ymddangos ym mhrif gystadleuaeth yr ŵyl, tra bo ffilm ddiweddaraf Claire Denis, Let Sunshine In – yn fy nhyb i, does dim modd cael dadl am sinema ryngwladol y 30 mlynedd diwethaf heb ei chynnwys hi – yn cael ei dangos mewn adran lai blaenllaw, sef y Quinzaine des Réalisateurs.

Yn amlwg, allwn ni ddim peidio â gweld rhywedd yn rhan o hyn; nid yn unig y mae Denis yn un o unig gyfarwyddwyr benywaidd blaenllaw sinema Ffrainc, ond ers ei ffilm gyntaf, Chocolat, yn 1988, mae hi wedi mireinio estheteg gwbl unigryw a nodweddir gan ei synwyrusrwydd cnawdol, goddrychol, arbrofol; a gan olwg benodol fenywaidd ar y byd. Er gwaethaf holl ymdrechion PR Cannes i ymddangos yn fwy blaengar o ran rhywedd yn y blynyddoedd diweddar, mae’n glir iawn o’r mathau o arddulliau, themâu a safbwyntiau sy’n cael eu clodfori fod ‘pwysigrwydd’ dal yn nodwedd sydd yn dynn ynghlwm â hen gysyniadau masgiwlinaidd.

Gellir dadlau mai ychydig iawn byddai gwaith Denis yn elwa, wir, o’r math yna o statws. Byddwn i’n disgrifio’i oeuvre fel un traethawd estynedig ar ddawns symudiad dynol, â chysylltiadau rhwng rhyw cnawdol a mudiant ac ôl-drefedigaethedd yn greiddiol drwy gydol ei gyrfa. Syndod, felly, yw bod ei ffilm ddiweddaraf – a wnaethpwyd ar frys yn gynharach eleni a’i chadw’n gyfrinach nes ei datgelu fel ffilm agoriadol y Quinzaine – yn gomedi rhamantus gymharol syml, sydd gam i ffwrdd o dir cyfarwydd Denis gan fod i bob golygfa, bron, fwy na thair llinell o ddeialog. Dilynwn ddynes ganol oed, emosiynol fregus – Juliette Binoche mewn perfformiad cyfoethog – wrth iddi geisio canfod y cydbwysedd delfrydol rhwng serch a bodlonrwydd oes wedi dirywiad ei phriodas.

Un peth sy’n syndod am y ffilm ydy gymaint mae ei chomedi’n argyhoeddi, a pha mor hyderus ydy gafael Denis ar ei deunydd. Mae cyffyrddiadau arddull cyfarwydd Denis a’i sinematograffydd athrylithgar, Agnes Godard, yn dal yma – y pwyslais ar gyswllt cnawd â chnawd, goddrycholdeb synhwyrus y gwaith camera, yr oedi uwchben manylion bob-dydd annisgwyl – ond maen nhw’n gwasanaethu naratif llawer mwy ymlaciedig a hygyrch nag arfer. Efallai wir fod hon yn ffilm ‘fechan’, ‘ysgafn’ fel mae rhai beirniaid wedi honni, ond heb os mae hi’n fwy gwreiddiol a gafaelgar a mwy gorffenedig ei hiaith sinematig na’r un o’r ffilmiau ‘pwysig’ Loveless-aidd i mi ei gweld ers amser hir. Mae hi’n ffilm sydd bron â’ch gwneud yn chwil gan bleser.

Mae dwy ffilm arall gan fenywod y tu allan i’r brif gystadleuaeth wedi ysgogi fy edmygedd, yn rhannol am nad ydyn nhw’n llafurio’n ddiflas i ddatgan i’r byd eu bod nhw’n gampweithiau mawr dwys. Yn Los Perros, ffilm o Chile yn adran Critics’ Week yr ŵyl, dilynwn ddynes, merch i filiwnydd dylanwadol, sy’n cael gwersi marchogaeth efo dyn enigmatig sydd, fel y cawn wybod ryw draean o’r ffordd i mewn i’r ffilm, yn destun ymchwiliad am dreisio hawliau dynol dan regime Pinochet. Yn y dyn hwn – ac yn anallu pawb i ddweud wrthi’n union pa fath o weithredoedd roedd e’n gyfrifol amdanynt – mae hi’n blasu enigma a pherygl sy’n absennol o’i bywyd fel arall. Os ydy steil y ffilm yn dibynnu ychydig yn ormodol ar fotifau cyfarwydd, hoeliwyd fy sylw bob eiliad gan y prif gymeriad rhyfedd, amwys a’i hobsesiwn. Diolch byth na wnaeth y ffilm fynnu rhoi cymhelliant i’w hatyniad, na chwaith ddatblygu’n thriler seicorywiol gyfarwydd fel mae’n ymylu ar fod.

Yn Western, gan Valeska Grisebach o’r Almaen (yn yr adran Un Certain Regard), dilynwn grŵp o ddynion o’r wlad honno sy’n adeiladu pibell ddŵr mewn pentref ym Melarws. A chanddi gyffyrddiadau tebyg i ffilmiau eraill gan fenywod o Ewrop sy’n bwrw golwg synhwyrus, ethnograffig ar ddeinameg a gemau pŵer dynion macho – fel Beau Travail gan Claire Denis a Chevalier gan Athina Rachel Tsangari – mae’r ffilm hon yn astudio hefyd y berthynas rhwng mewnfudwyr a phobol leol, a rhwng dwyrain a gorllewin Ewrop heddiw.

Yr adleisiau o fytholeg wrywaidd y ffilm western a awgrymir gan y teitl ydy un o’r pethau lleiaf diddorol am y ffilm grefftus, fanwl hon. Mae’r ymdriniaeth sensitif â’r tirlun, a’r tensiynau rhwng y pentrefwyr a’r ymwelwyr, yn ei gwneud yn ffilm a allai apelio at gynulleidfa eang. Y platfform mae Cannes yn rhoi i ffilmiau tebyg i hon – ffilmiau sy’n priodi elfennau annisgwyl, sy’n taro golau unigryw ar berthnasau pobol â’i hamgylchedd – ydy raison d’etre yr ŵyl i fi.

Wrth dreulio deg diwrnod yn gwylio sawl ffilm y dydd, o bob math o bersbectif ac o bedwar ban byd, mae’r cyseinedd a’r cyferbyniadau rhwng rhai annisgwyl yn cael eu hamlygu; yn fy nyddiau cyntaf yma, roedd y craciau a amlygwyd yn nelwedd ddiflas Cannes o fri gwrywaidd yn enghraifft. Hir oes i ysgafnder!