Mae Caryl Parry Jones wedi dweud ar wefan gymdeithasol Facebook ei bod hi’n “siomedig” na fydd trydedd cyfres o Anita ar S4C.

Yr actores a’r gantores fu’n chwarae rhan y prif gymeriad, oedd wedi ymddangos ar y sgrîn am y tro cyntaf yn y gyfres gomedi Caryl a’r Lleill.

Mae Anita’n ddysgwraig sy’n siarad cymysgedd o Gymraeg a Saesneg, yn gefnogol i’r Gymraeg ac yn annog pobol eraill i fynd ati i ddysgu’r iaith.

Mae hi’n fam sengl i Jools, ac yn byw yng Nghaerdydd, lle mae hi’n gweithio mewn cartref hen bobol ac yn ffrind mawr i’r Cymro Cymraeg, Arthur.

Ond mae perthynas Anita a Jools (Miriam Isaac, merch Caryl Parry Jones) yn newid wrth i Anita gyfarfod â Bedwyr (Bryn Fôn) ar wefan garu.

Caryl Parry Jones oedd wedi ysgrifennu’r gyfres gyda’i chyfnither Non Williams.

Dywedodd S4C eu bod wedi canslo’r gyfres oherwydd “ffigyrau gwylio siomedig.”

‘Diolchgar’

Yn ei bostiad Cymraeg ar Facebook, mae Caryl Parry Jones yn awgrymu bod S4C wedi gwneud tro pedol “ar ôl cael ar ddeall y byddai cyfres arall o “Anita”. Mae’r postiad wedi denu ymhell dros gant o sylwadau.

Daeth yr ail gyfres i ben ddechrau mis Ebrill eleni heb egluro beth oedd hanes Bedwyr.

Ychwanega: “Yn amlwg mae Non Williams a fi yn siomedig ofnadwy ond yn ddiolchgar tu hwnt o fod wedi cael y cyfle i drio rhywbeth gwahanol ar gyfer cynulleidfa chydig yn wahanol. Diolch o galon i bawb ddaru fwynhau ac am eich negeseuon lyfli drwy gydol y ddwy gyfres.”

Yn ei neges Saesneg ar Facebook, eglura fod a wnelo penderfyniad S4C â niferoedd fu’n gwylio’r rhaglen, er nad yw’r neges Gymraeg yn cyfeirio’n benodol at hyn.

“Ffigyrau gwylio siomedig”

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Er i garfan o’r gynulleidfa fwynhau Anita, roedd y ffigyrau gwylio (ar sgrin ac ar-lein) a ffigyrau gwerthfawrogiad yn siomedig, ac yn dangos dirywiad o gyfres 1 i gyfres 2 ac yn is na chyfartaledd y slot ddarlledu.

“Rydym yn ddiolchgar i Caryl, Non a gweddill y cast a’r criw cynhyrchu am eu gwaith ac am arbrofi gyda’r defnydd o ddwy iaith i greu drama.

“Yn anffodus ni wnaeth yr arbrawf daro deuddeg gyda mwyafrif y gynulleidfa, ond rydym yn ymrwymedig i barhau i geisio adlewyrchu’r Gymru fodern a’r patrymau ieithyddol amrywiol.”