Mae prif wobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd – y Gadair a’r Goron – wedi’u cyflwyno’n swyddogol.

Dau grefftwr lleol sydd wedi eu creu, a chafodd y ddau eu hysbrydoli gan ardal Pen-y-bont ar Ogwr Taf Elai.

Mae’r Gadair wedi ei chreu gan ddefnyddio pren onnen a phren sapele, gyda stribed o ddur yn rhedeg drwyddi sy’n cynrychioli’r diwydiant dur yn yr adral.

Mae dyluniad y Goron, wedyn, yn seiliedig ar dorch Geltaidd, wedi ei chreu o arian ac yn cynnwys geiriau o’r anthem genedlaethol gydag elfennau o’r tirwedd a’r afonydd lleol i’w gweld ynddi.

Hogyn o Roshirwaun


Cafodd y Gadair ei chreu gan Osian Roberts, sy’n hanu o deulu o seiri coed yn Rhoshirwaun ger Aberdaron, ond sydd bellach yn Bennaeth Adran Dechnolegol Ysgol Llangynwyd.

Dyma’r gadair gyntaf iddo ei chreu a gyda help ei frawd, Ifan, canolbwyntiodd ar wneud un “eithaf modern a syml” sy’n cynnwys elfennau o’r ardal leol.

Meddai: “Ar y blaen mae tri metel o liwau gwahanol wedu eu defnyddio i greu y triban, a’r geiriau Pen-y-bont ar Ogwr Taf, ac Elái a map o Gymru wedi ei losgi ar flaen y gadair.”

“Rwyf yn edrych ymlaen i’w gweld ar y llwyfan ar y dydd Iau, ac mae’n braf mai yr ysgol ydw i yn gweithio iddi, Ysgol Llangynwyd, yw rhoddwyr y gadair eleni.”

Y Gymraeg yn ysbrydoli

Bachgen o Benybont-ar-Ogwr yw gwneuthurwr y Goron, sef yr artist Iolo Edger sy’n arbenigo mewn gemwaith ac yn rhedeg y fusnes deuluol, ‘Jewellers on the Bridge’, yn y dref.

Mae wedi mynd ati’n ddiweddar i ddysgu Cymraeg ac mae’r Iaith yn rhan bwysig o’i ddyluniad:

“Mae’r iaith Gymraeg mor ganolog yng ngwaith yr Urdd ac roeddwn eisiau dangos sut y gall iaith fod yn rhan ganolog i brofiadau bywyd. Dyna pam y gwnes i gynnwys geiriau o’r anthem genedlaethol yn nyluniad y goron.”

“Mae’r holl broses wedi gwneud i mi edrych ar beth mae’n olygu i mi fod yn Gymro.

Bydd y Gadair yn cael ei chyflwyno ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar ddydd Iau, Mehefin 1; a’r Goron ddydd Gwener, Mehefin 2.