Wrth i ‘Made in North Wales TV’ lansio heddiw, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddatganoli darlledu i Gymru er mwyn sicrhau mwy o Gymraeg ar sianeli teledu lleol.

Dim ond 30 munud o raglenni Cymraeg gwreiddiol – allan o 99 awr o ddarlledu’r wythnos – fydd ar y sianel newydd sy’n dechrau darlledu o’i phencadlys yn Lerpwl heddiw.

“Yn syml, mae angen diddymu Ofcom (y rheoleiddiwr darlledu) a sefydlu system rheoleiddio darlledu ar wahân ar gyfer Cymru, gyda’r Gymraeg fel rhan o waith craidd y gyfundrefn newydd,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’r problemau gyda ‘Made in North Wales’, sy’n darlledu o Lerpwl, yn rhan o batrwm… sy’n ffafrio anghenion busnesau mawrion yn hytrach na’r gymuned leol a’r Gymraeg. Rydym wedi gweld datblygiadau tebyg ar radio masnachol lleol dros y degawdau diwethaf. Mae’n gwbwl annerbyniol.”