Lois Cernyw ac Oli Kemp (Llun cyhoeddusrwydd Heart FM)
Un o wynebau cyfarwydd rhaglenni plant S4C fydd un o gyflwynwyr newydd rhaglen frecwast gorsaf radio fasnachol Heart FM yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Bydd Lois Cernyw – sydd yn adnabyddus am ei gwaith yn cyflwyno rhaglenni Stwnsh a Tag – yn cyd-gyflwyno’r rhaglen Brecwast Heart rhwng 6 a 10 y bore gydag Oli Kemp o stiwdio ddarlledu Wrecsam, ac yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol ddydd Llun nesaf (Ebrill 24).

Er bod Lois Cernyw wedi cyfrannu at raglenni radio yn y gorffennol, dyma fydd y tro cyntaf iddi gyflwyno rhaglen… ond mae hi’n fwy na pharod i wynebu her newydd.

“Dw i wrth fy modd,” meddai wrth golwg360. “Mae’n andros o gyffrous ac mae’n rhywbeth dw i’n gobeithio bydd yn dod yn reit naturiol.

“Dw i’n dod o gefndir teledu nid radio,” meddai wedyn, “felly mae’n sialens hollol newydd ac yn amlwg pan dw i wedi cyflwyno yn y gorffennol, dw i wedi gwneud pob dim trwy’r iaith Gymraeg. Felly mi fydd hwnna’n sialens newydd hefyd!”

Dod adref

A hithau wedi bod yn gweithio yng Nghaerdydd am bron i ddegawd yn cyflwyno, yn cyfarwyddo ac yn cynhyrchu yn y byd teledu, mae Lois Cernyw bellach yn hapus dros ben i fedru dychwelyd i Langernyw i fyw.

“Symud adre i Langernyw fydda’ i, a dw i wrth fy modd,” meddai. “Dw i’n dod yn ôl i’w ardal lle ges i fy magu. Ardal sy’n andros o agos at fy nghalon i, canolbarth a gogledd Cymru. Dw i’n caru’r ardal, caru’r gymuned…

“Mae wastad wedi bod yn fwriad i ddychwelyd i’r ardal ac mae hwn yn gyfle perffaith. Dw i’n dal i gael gwneud be’ dw i’n caru ei wneud o ran gwaith, a dw i’n cael byw adre hefyd, felly mae o’n win, win i f!”

“Platfform i bobol leol”

Mae Lois Cernyw hefyd yn falch ei bod yn medru dod ag elfen Gymraeg i’r orsaf sy’n darlledu gan fwyaf yn Saesneg – ac mae’n gobeithio cryfhau cysylltiad yr orsaf â phobol lleol.

“Dw i’n meddwl bod Heart fel cwmni eisiau cael hunaniaeth Gymraeg, er bod y darlledu drwy’r iaith Saesneg,” meddai. “Maen nhw’n sicr eisiau i’r rhaglen deimlo’n fwy Cymraeg.

“Maen nhw eisiau i bobol gogledd a chanolbarth Cymru teimlo mai ei sianel nhw ydy o. Dw i’n hogan leol, yn nabod yr ardal ac yn gobeithio medru rhoi platfform i bobol leol.”