Tafwyl ar dir Castell Caerdydd
Mae’r ŵyl Gymraeg sydd fel arfer yn cael ei chynnal ar diroedd Castell Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn symud dros dro i gaeau Llandaf eleni.

Rhai o brif leisiau’r ŵyl ddeuddydd am ddim yw Bryn Fôn, Geraint Jarman ac Yws Gwynedd, Alys Williams, Kizzy Crawford, Meic Stevens a Candelas.

Yn ymuno â nhw hefyd mae Y Niwl, Heather Jones a The Gentle Good, gyda thrydydd llwyfan ar gyfer perfformwyr newydd sy’n gynnwys Chroma, Hyll a Mellt.

Bydd cyfuniad o gerddoriaeth electro dan y sîn REU wrth i Gareth Potter a Mark Lugg atgyfodi eu grŵp Tŷ Gwydr, a bydd cerddoriaeth werin ar y dydd Sul.

‘Cracar’

Wrth edrych ymlaen at yr ŵyl, dywedodd y canwr Yws Gwynedd: “mae dathlu’r Gymraeg yn ein prif ddinas yn rhywbeth sydd yn rhaid i ni wneud yn amlach.

“Mae Tafwyl yn gracar o ffordd i wneud hynny a da ni’n hollol edrych ymlaen at ddod lawr i ymuno efo’r dathlu!”

Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi hefyd y bydd cyfres o ddigwyddiadau ymylol yn cael eu cynnal ar draws y brif ddinas rhwng Mehefin 24 a Gorffennaf 2 wrth arwain at y prif ddigwyddiadau.