Llŷr Gwyn Lewis (Llun: golwg360)
Mae Cymro ymysg deg awdur sydd wedi cael eu dewis ar gyfer ymgyrch hyrwyddo lenyddol Deg Llais Newydd Ewrop.

Bydd Llŷr Gwyn Lewis yn ymuno â nofelwyr, beirdd a chyfieithwyr o wledydd yn cynnwys Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, a Rwmania, fel rhan o ail flwyddyn y prosiect.

Cafodd y detholiad ei gyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain 2017, a nod y prosiect sy’n cael ei arwain gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau, yw rhoi llwyfan rhyngwladol i awduron i gael cydnabyddiaeth y tu hwnt i ffiniau eu mamwlad.

Y Deg Llais Newydd

Bydd Deg Llais Newydd 2017 yn dod at ei gilydd yng ngŵyl lenyddol Kosmopolis yn Barcelona ar ddiwedd y mis, lle bydd cyfle iddyn nhw gwrdd â chyhoeddwyr, asiantau a threfnwyr digwyddiadau llenyddol.

Mae’r detholiad yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a’n cael ei ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol  yr Undeb Ewropeaidd, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cysylltiad Ewropeaidd

Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis wrth golwg360: “Dw i’n ei gweld hi’n fraint enfawr. Mi oeddwn i wedi cael fy synnu braidd pan ges i’r alwad yn dweud fy mod i wedi cael fy newis, doedd o ddim yn rhywbeth roeddwn i’n ymgeisio amdano fo.

“Dw i hefyd yn gweld o’n eithaf eironig ac amserol mewn ffordd ein bod ni’n sôn am leisiau llenyddol o Ewrop ar gyfnod pan dan ni’n disgwyl cyhoeddiad am danio Erthygl 50 yn yr wythnosau nesaf, ac yn ei weld o ar un wedd yn beth trist ag eironig.

“Ond ar y llaw arall dw i’n falch o gael y cyfle o gydweithio a gwneud cysylltiadau Ewropeaidd ar gyfnod pan da ni erioed wedi bod angen hynny’n fwy.”