Mae corff sy’n cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu Cymraeg annibynnol wedi galw am gynnydd ar unwaith i gyllideb S4C.

Wrth drafod â Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad dywedodd corff Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) fod angen cynnydd 10% er mwyn galluogi bod y darlledwr yn “gweithredu’n effeithlon wrth symud ymlaen.”

Yn ôl y TAC mae’r cynnydd yn hanfodol er mwyn ariannu cynnwys ar lwyfannau newydd a mwy o gynnwys gwreiddiol ar y sianel – mae lefel ailddarllediadau’r sianel wedi codi 57%.

Mae’r corff annibynnol hefyd am weld y gyfran o gyllid S4C sy’n deillio o Ffi’r Drwydded Deledu yn cael ei gwahanu’n llwyr oddi wrth y BBC er mwyn lleihau atebolrwydd i’r sefydliad.

“Gwasanaeth o safon”

“Mae’n hanfodol cynnal presenoldeb y sianel ar deledu, ond ar ben hynny, mae angen i S4C ddarparu gwasanaeth o safon i’r nifer gynyddol o wylwyr sy’n cyrchu cynnwys ar wahanol lwyfannau,” meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick.

“Mae’n werth cofio hefyd bod unrhyw fuddsoddiad ychwanegol yn S4C yn dyblu ei werth o ran ei gyfraniad at y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac at economi’r DU yn gyffredinol.”