Y Bandana (Llun: Y Selar/Celf Calon)
Y Bandana oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth neithiwr, wrth iddyn nhw gipio pedair gwobr, gan gynnwys y Band Gorau.

Dyma’r pedwerydd tro iddyn nhw ennill y wobr hon, gan adeiladu ar eu llwyddiant yn 2010, 2011 a 2012.

Daeth y band o Gaernarfon i’r brig yng nghategorïau’r Record Hir Orau (Fel Tôn Gron), y Gwaith Celf Gorau (Fel Tôn Gron) a’r Gân Orau (Cyn i’r Lle Ma Gau) hefyd.

Cynhalion nhw eu gig olaf yng Nghaernarfonym mis Hydref, wrth i’r aelodau benderfynu canolbwyntio ar brosiectau unigol, a chafodd y gig ei enwebu ar gyfer gwobr y Digwyddiad Byw Gorau, a gafodd ei hennill gan Maes B, enillwyr gwobr yr Hyrwyddwr Gorau hefyd.

Roedd dwy wobr hefyd i Yws Gwynedd, am y Fideo Cerddoriaeth Gorau (‘Sgrîn’) ac am yr Artist Unigol Gorau, a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd hi’n noson dda hefyd i’r band Ffracas o Bwllheli, wrth iddyn nhw ennill dwy wobr – Band neu Artist Newydd Gorau a’r Record Fer Orau am eu EP cyntaf, ‘Niwl’.

Aeth y wobr am yr Offerynnwr Gorau i Osian Williams (Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog a Siddi), a chipiodd Lisa Gwilym wobr y Cyflwynydd Gorau.

Roedd perfformiadau byw ar y noson gan Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Fler de Lys, CaStLeS, HMS Morris, Cpt Smith, Ffracas, Chroma, Gwilym Bowen Rhys ac Alffa.

‘Dathlu llwyddiant’

Dywedodd trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone: “Teg dweud bod heno wedi bod yn noson gofiadwy arall, ac mae mor braf gweld dros 1000 o bobl yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg.

“Holl egwyddor Gwobrau’r Selar ydy bod yr enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais boblogaidd, a does dim amheuaeth bod Y Bandana wedi bod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd hanes y sîn Gymraeg.

“Y nhw ydy grŵp mwyaf llwyddiannus hanes Gwobrau’r Selar, ac mae’n briodol eu bod nhw’n cipio llond trol o wobrau ym mlwyddyn olaf y grŵp. Maen nhw wedi bod yn grŵp pwysig, ac yn haeddu’r clod yma.”

Enillwyr llawn Gwobrau’r Selar 2016:

 Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana

Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Lisa Gwilym

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Yws Gwynedd

Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Ffracas

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn): Maes B

Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Osian Williams

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Fel Tôn Gron – Y Bandana

Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Y Bandana

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Fel Tôn Gron – Y Bandana

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Niwl – Ffracas

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Sgrin – Yws Gwynedd

Detholiad o luniau