Llun o'r 'Egin' (o wefan y fenter)
Mae mudiad iaith wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg yn gofyn iddo beidio â rhoi arian i gefnogi symudiad S4C i Gaerfyrddin.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith fe ddylai cyllideb y Gymraeg gael ei gadw’n gyfangwbl at gynlluniau sydd o les uniongyrchol i’r iaith.

“Gallai colli arian o’r fath wneud niwed mawr i brosiectau gwerthfawr,” meddai Cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd,

Mae’r mudiad yn poeni ar ôl clywed sïon bod Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn dod dan bwysau i gyfrannu arian at yr adeilad ble bydd S4C yn symud ar dir Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Hynny ar ôl i’r Brifysgol apelio am gymorth o £6 miliwn i ddatblygu canolfan yr Egin, sydd i fod yn bwerdy economaidd Cymraeg yn yr ardal.

Pwy fyddai’n cyfrannu?

Mae Golwg360 yn deall mai Ysgrifennydd yr Economi fyddai’n ystyried unrhyw gais a, pe bai hwnnw’n eu hargyhoeddi nhw, fe allen nhw ofyn i weinidogion perthnasol eraill am gyfraniadau – ac fe allai hynny gynnwys Alun Davies a chyllideb yr iaith.

Hyd yma, dyw’r Drindod Dewi Sant ac S4C ddim wedi cyflwyno cynllun busnes i ddangos beth fyddai’r buddiannau lleol a chenedlaethol – yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, dim ond ar ôl derbyn hwnnw y bydd y cais yn cael ei ystyried.

Rhybuddio rhag hynny y mae Dyfodol i’r Iaith gyda Heini Gruffudd yn dweud y dylai “unrhyw arian a allai fod dros ben yn yr Adran Gymraeg gael ei roi i brosiectau sy’n hybu’r Gymraeg yn y gymuned.

“Mae arian at bethau fel hyn wedi bod yn ddigon prin, a byddai cymryd arian o gyllideb y Gymraeg yn peryglu gwaith da sy’n cael ei wneud,” meddai Heini Gruffudd.

Datganiad Llywodraeth Cymru

“Ar hyn o bryd nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud am gymorth. Bydd unrhyw cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn dibynnu ar achos busnes manwl a chymhellol sy’n mynegi tystiolaeth o’r manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad ac yn dangos pam mae angen arian o’r sector cyhoeddus i gyflawni.”