RSS

Golwg360

MwyCau 

Cariad at Gymru’n arwain at arddangosfa arbennig

Chwefror 16, 2017 12:42 Diweddarwyd Chwefror 20, 2017 09:48


Gwaith Barbara Hepworth, Three Forms 1971 (Hawlfraint Bowness)
Ei gariad at Gymru, hen wlad ei fam, sydd wedi sbarduno casglwr lluniau cyfoethog i ddangos rhai o luniau gorau ei gasgliad yng Nghaerdydd – yn ôl arbenigwr un o’r casgliadau modern gorau i gael ei weld yng Nghymru erioed.

Mae hoffter Ian Stoutzker o’r wlad – roedd ei fam yn dod o Dredegar – yn golygu y bydd rhai o’r artistiaid modern goraiu’n cael eu dangos yn Amguddfa Cymru, gan gynnwys Francis Bacon, Henry Moore, David Hockney a Barbara Hepworth.

Fe fydd yr arddangosfa o gasgliad Ian Stoutzker a’i wraig Mercedes Stoutzker  - un o’r casgliadau preifat gorau o weithiau celf fodern Brydeinig – yn agor ddydd Sadwrn dan yr enw O Bacon i Doig: Campweithiau Modern o Gasgliad Preifat.

Teyrnged i’w Fam

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n rhaid i Ian Stoutzker ffoi yn faciwî o Lundain i Gymru lle bu’n astudio yn Ysgol Tredegar.

“Pan awgrymodd fy ngŵr, Ian, y dylen ni gynnig cynnal arddangosfa yng Nghaerdydd o gelf Brydeinig fodern o’n casgliad, feddyliais i y byddai’n dod â phleser i lawer – ond yn bennaf i Ian ei hun,” meddai Mercedes Stoutzker.

“Mae ganddo feddwl mawr o Gymru, wedi’i etifeddu gan ei fam, gafodd ei geni a’i magu yn Nhredegar.”

Yn 2011 fe gyfrannodd Ian Stoutzker £100,000 at neuadd newydd yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd er cof am ei fam.

Cyfle arbennig

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle arbennig hwn i ddod â gweithiau celf o’r fath werth diwylliannol i Gymru,” meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson.

“Mae ymhlith y casgliadau pwysicaf o gelf Brydeinig fodern i gael ei arddangos yng Nghymru erioed.”

Fe fydd yr arddangosfa yng Nghaerdydd tan Ionawr 31 y flwyddyn nesa’ gyda mynediad am ddim.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.