Geraint Jarman (Llun: Emyr Young)
Fe fydd Geraint Jarman yn perfformio mewn gig acwstig arbennig yn Neuadd Pantycelyn fis nesa’ – ar y penwythnos y bydd yn derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad i’r sîn roc Gymraeg.

Fe fydd y canwr o Gaerdydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar ar Chwefror 17. Dyma’r ail waith i’r wobr gael ei chyflwyno, yn dilyn cydnabod Datblygu y llynedd.  

“Roedd dewis ennill y wobr Cyfraniad Arbennig yn weddol rhwydd eleni gan bod 2016 yn nodi 40 mlynedd ers i Geraint Jarman ryddhau ei albwm cyntaf,” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae’r cyfraniad yn ymestyn i’w bumed degawd bellach gyda rhyddhau’r ardderchog Tawel yw’r Tymor ar label Ankst.”

“Mae’r albwm diweddaraf yn wahanol i’w waith blaenorol, ac yn acwstig ei naws, a bydd y gig ym Mhantycelyn yn adlewyrchu hynny, er bydd cyfle i glywed ambell glasur o’i ôl-gatalog hefyd. Mae amser maith ers i Geraint berfformio yn Aberystwyth, a bydd y gig yn un arbennig iawn.”

Cefnogaeth

Bydd The Gentle Good, sef prosiect cerddorol Gareth Bonello sydd wedi cydweithio llawer gyda Geraint Jarman yn ddiweddar gan gynnwys ar yr albwm diweddaraf, yn cefnogi ar y noson.

Bydd Geraint Jarman hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs arbennig am ei yrfa yn Aberystwyth fel rhan o weithgareddau ymylol dydd Sadwrn y Gwobrau.

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn, bydd dydd Iau, Ionawr 12, yn ‘Ddiwrnod Jarman’ ar Radio Cymru, gyda sylw arbennig i’r cerddor trwy gydol y dydd.  Mae Sain hefyd yn cynnig gostyngiad o 25% ar gasgliad bocs-set Jarman ar eu gwefan am y diwrnod.