Mae tocynnau ar gyfer “gig fwya’ erioed” Eisteddfod Llangollen, lle bydd y Manic Street Preachers yn ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed, wedi mynd ar werth.

I ddathlu pen-blwydd yr eisteddfod yn 70 oed, mae’r trefnwyr yn bwriadu tynnu seddau cefn y pafiliwn allan er mwyn medru gwahodd 5,200 o bobol i wrando ar gig Llanfest.

Bydd tocyn eistedd yn costio £65 a thocyn i sefyll yn costio £50.

Dywedodd y band: “Mae o hyd yn arbennig i ni chwarae yng Nghymru, yn enwedig pan ydan ni’n chwarae yn rhywle am y tro cyntaf. A bydd chwarae yn yr ŵyl ar ei phen-blwydd yn 70 yn hyd yn oed gwell.”