Y seren roc rhyngwladol, Bryan Adams, fydd prif artist cyngerdd blynyddol Parc Eirias, Bae Colwyn, yr ha’ nesa’.

Mae’r canwr o Ganada yn enwog am ganeuon fel ‘Run to You’, ‘Summer of ’69’ ac ‘Everything I Do, I Do It for You’.

“Rydym yn hapus dros ben ac yn edrych ymlaen unwaith eto at gael artist rhyngwladol yn Eirias y flwyddyn nesaf,” meddai’r Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

“Nid yn unig y mae enw fel Bryan Adams yn rhoi Bae Colwyn ar y map, mae hefyd yn cyfrannu at fudd economaidd Gogledd Cymru,” meddai.

Esboniodd fod cyngerdd diweddar gyda’r seren Lionel Richie wedi sicrhau £345,000 i’r economi leol.

“Rydym yn gwybod y bydd llawer o bobol o bob oed yn frwdfrydig iawn ynghylch y cyngerdd hwn, ac ni allwn aros i gynnig croeso cynnes Cymreig i Bryan Adams,” meddai Graham Rees.

Mae’r tocynnau yn mynd ar werth yn Venue Cymru ddydd Gwener hyn, Rhagfyr 2, gyda’r gyngerdd ar 9 Gorffennaf 2017.