Y Manic Street Preachers Llun: Gwefan Gwyl Rhif 6
Y Manic Street Preachers fydd yn cloi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2017 a’r gig fydd y fwyaf mae’r eisteddfod wedi ei chynnal, yn ôl y trefnwyr.

Mi fydd y grŵp o’r Coed Duon yn ffres o daith i nodi 20 mlynedd ers cyhoeddi’r albym ‘Everything Must Go’ ac mi fydd hi hefyd yn ben-blwydd Eisteddfod Llangollen yn 70 oed.

I ddathlu, mae trefnwyr yr eisteddfod yn bwriadu tynnu seddau cefn y pafiliwn allan er mwyn medru gwahodd 5,200 o bobol i wrando ar gig Llanfest.

Mae trefnydd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, wedi galw’r digwyddiad arfaethedig yn un “hanesyddol”:

“Mae’n mynd i fod y sioe fwyaf erioed yn Llanfest ag rydym yn gyffrous iawn am y digwyddiad hanesyddol yma,” meddai.

“Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddathliad o Gymru a’r byd, felly mae cael ymuno â’r Manics wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 70 oed yn anrhydedd o’r mwyaf”.

Bydd tocynnau ar gyfer y gig yn mynd ar werth ar 1 Rhagfyr 2016.