Yasus Afari
Mae bardd o Jamaica wedi galw am gymod a dealltwriaeth, wrth iddo ymweld ag ardal o Gymru a fu’n delio mewn caethweision yn ei ran ef o’r byd.

Roedd Yasus Afari yn perfformio ac yn cynnal gweithdai ym mhentre’ chwarelyddol Bethesda yn Nyffryn Ogwen dros y Sul, lle’r oedd teulu Castell Penrhyn yn berchen ar y chwareli ac yn delio hefyd mewn siwgr a chaethweision o’r Caribî.

Wrth gyfeirio at y ffordd y mae’r fasnach gaethweision wedi cael effaith fawr ar ei bobol, a sut mae Ymherodraeth Brydain wedi gwneud ei famiaith yn ail i’r Saesneg yn Jamaica ac ynysoedd eraill, mae Yasus Afari bellach yn credu ei bod hi’n bryd i bobol wynion Ewrop ymddiheuro, cyn y medr pawb symud yn eu blaenau.

“Gadewch i Bethesda y penwythnos hwn fod yn lle o gymod ac iachâd,” meddai’r bardd reggae a dyb, “a gadewch i Ddyffryn Ogwen fod yn gwm y ddealltwriaeth, wrth inni gydnabod fod yna sawl cenedl wedi diodde’ dan law ymherodraeth fawr fel un Lloegr.

“Fel yn ysgolion Cymru, lle’r oedd plant bach yn gorfod gwisgo pren y ‘Welsh Not’ os oedden nhw’n siarad Cymraeg yn y dosbarth, roedd yna drefn o gosbi plant bach yn Jamaica hefyd os oedden nhw’n siarad iaith patois.

“Mae’n rhaid cydnabod yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae’n rhaid symud ymlaen,” meddai wedyn, ar ddiwedd cyfnod lle bu’n cynnal gweithdai yn ysgolion yr ardal ac yn recordio caneuon gyda disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen.