Mae Yws Gwynedd wedi dweud y dylai rhagor o fandiau Cymraeg fynd ati i gynhyrchu eu fideos eu hunain, wedi i dros 100,000 wylio ei fideo ‘Sebona Fi’ ar YouTube.

Yn ôl Yws Gwynedd mae’r fideo, a gafodd ei greu’n annibynnol yn hytrach nag ar gyfer rhaglen deledu, mae poblogrwydd y gân yn deillio o’r fideo ac fe ddylai rhagor o fandiau Cymraeg fanteisio ar dechnoleg i farchnata eu hunain.

“Wnaeth y gân ddim cydio gymaint a hynny tan i’r fideo fynd i fyny,” meddai Yws Gwynedd wrth golwg360. “Ond y munud ddaru’r fideo fynd allan, dydan ni heb sbïo’n ôl.

“Dydi poblogrwydd y fideo a’r ffaith bod y gân wedi cyrraedd rhif pump yn 40 Mawr Radio Cymru ddim yn gyd-ddigwyddiad. Mae poblogrwydd y gân wedi cael ei gryfhau gan y fideo ac mae angen i fandiau neud mwy i farchnata eu hunain.”

Gwnaeth Yws Gwynedd ei sylwadau wrth i’w sengl newydd, ‘Sgrîn’ gael ei rhyddhau heddiw.

Sebona Fi

Daeth y syniad am fideo ‘Sebona Fi’ wedi i Emyr Prys Davies, sy’n chwarae’r gitâr fas ym mand Yws Gwynedd, benderfynu dogfennu ha’ cynta’r band yn teithio Cymru gyda’i gilydd gyda camera GoPro. Aeth ymlaen i ennill gwobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar ddechrau’r flwyddyn.

Yn ôl Yws Gwynedd, does dim angen llawer o arian i greu rhywbeth tebyg ac mae technoleg fodern yn golygu y gall unrhyw un fynd ati i wneud fideo petai’r awydd yno.

“Ti ddim angen pres i neud fideo, dim ond ychydig o greadigrwydd. Y concept sy’n anodd fel arfar. Mae o hefyd yn mynd yn haws a haws i wneud rhywbeth fel hyn. Does na’m pobl ifanc allan yna fydda’n gallu dechra’ cwmni i wneud fideos i fandia’ a chael troed yn drws yn y cyfryngau yr un pryd?

“Mae tua 97% o’r rhai sydd wedi gwylio’r fideo yn dod o Brydain ond mae 3% yn dod o lefydd gwahanol ar draws y byd. Mae o’n rhoi platfform byd eang i chdi.

“Ti isio i gymaint a phosib o bobol i glywad dy stwff di, felly gobeithio fydd fideo ‘Sebona Fi’ yn garreg filltir ac yn dangos i fandia’ eraill be sy’n bosib.”